Arbedwch bunt neu ddwy, neu fwy drwy archebu lle’n uniongyrchol â ni!
Yn sgil cyfyngiadau Covid-19 rydym ar gau ar hyn o bryd ac mae ein calendr wedi ei diffodd. Ond cysylltwch i wneud ymholiadau.
Cadw lle ar gyfer 2021
Mae gennym bolisi o leiafswm o 2 noson yn 2021. Ond fe fydd yn newid fel y daw’r tymor yn nes. Ffoniwch rhag ofn bod newid wedi digwydd a bod un noson neu ddwy ar gael: 01286 660017 / 07887654251.
Mae ein polisi canslo’n union fel tasech chi’n becio drwy asiant gwyliau ar-lein:
Ffioedd canslo:
o fewn 14 ddiwrnod i gyrraedd: byddwn yn codi 50% o werth y gwyliau (neu flaendâl, neu gost y noson gyntaf, pa run bynnag yw’r mwyaf)
o fewn 24 awr i gyrraedd: byddwn yn codi 100% o werth y gwyliau
pe na baech yn cyrraedd o gwbl fe fyddwn yn codi 100% o werth y gwyliau
Blaendâl, cardiau credyd ac ati
Nid ydym yn codi arnoch ar adeg y bwcio ond rydym angen manylion cerdyn i sichrau’r gwyliau. Fe gewch dalu ar ôl cyrraedd, gyda’r un cerdyn, cerdyn gwahanol, arian parod neu’n syth i’n cyfrif banc.