Mae Bryn Eisteddfod yn arbennig o hwylus i gerddwyr sy’n dilyn Llwybr yr Arfordir neu ar eu ffordd i Ynys Enlli ar hyd Llwybr y Pererinion gan fod ein hadwy yn agor ar y Llwybr Arfordir Cymru. Felly bydd eich taith yn un gyfan, heb doriad!
Gwneud y daith yn haws
Am ffii bychan fe allwn gynnig:
• golchi a sychu eich dillad fel bod gennych ddillad sych a glân ar gyfer y rhan nesaf o’ch taith
• cludo eich bagiau o ble bynnag yr oeddech yn aros y noson gynt neu i ble bynnag y byddwch yn aros ar ôl Bryn Eisteddfod.
• pecyn bwyd ag gaiff ei baratoi’r bore hwnnw a fydd, os oes angen, yn addas i lysieuwyr neu rai sydd eisiau bwyd heb gluten
• gwasanaeth argraffu lliw rhag ofn eich bod eisiau copi arall o fap wedi ei golli
Parcio car
Mae hen ddigon o le yma os hoffech chi barcio eich car am rai dyddiau os ydych yn dilyn llwybr cylchog ac yn defnyddio Bryn Eisteddfod fel lleoliad canolog.
Codi o’r orsaf drenau
Am bris rhesymol fe allwn drefnw eich codi o orsaf drenau bangor neu Bwllheli, Cysylltwch â ni mewn da bryd os hoffech fanteisio ar y cynnig hwn.
Amserlenni bws
Os ydych yn gorfdo defnyddio cludiant cyhoeddus, isod mae ddolen i amserlenni bysiau lleol, sy’n stoip yng Nghlynnogfawr dim mwy na 200m o Fryn Eisteddfod (dewisiwch fws rhif 12: Pwllheli – Trefor – Caernarfon)