Gwledd 5 cwrs – £22.50
Rydym yn hyderus bod gennym fwydlen i dynnu dŵr o’ch dannedd ac y byddwch yn dod atom rhyw ben i ddathlu’r Nadolig, boed hynny’n y prynhawn neu gyda’r nos.
Gallwn dderbyn grwpiau o hyd at 40 o bobl ond rydym hefyd yn croesawu grwpiau llai yn ogystal ag unigolion, teuluoedd a chyplau.
Cliciwch isod am y fwydlen eleni:
I sicrhau dyddiad eich cinio gofynnwn yn garedig i chi am flaendal o £5 y pen ynghyd â’ch dewis o fwyd a nifer o bobl. Yna, ar derfyn eich pryd fe gewch anfoneb ar gyfer y gweddill fydd yn ddyledus.
Cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr hyn sydd gennym i’w gynnig.