Amodau a Thelerau

Amodau a Thelerau Bryn Eisteddfod
Diolch i chi am ddewis dod i aros ym Mryn Eisteddfod. Edrychwn ymlaen at eich croesawu yma. Wrth i chi wneud yr archeb hon byddwch yn gwneud cytundeb â ni. Mae’n bwysig eich bod yn darllen y telerau ac amodau archebu isod sy’n nodi telerau’r cytundeb hwnnw.

Prisiau
Mae’r pris yn cynnwys eich ystafell ynghyd ag unrhyw brydau/lluniaeth a ddynodir. Oni bai ei fod wedi’i ddynodi’n glir ar y ffurflen archebu, bydd pob eitem ychwanegol megis prydau bwyd ychwanegol, ffôn, diodydd ayb yn cael eu cyfrif yn ychwanegol. Derbyniwn y dulliau canlynol o dalu: arian parod, siec gyda cherdyn banc, cardiau debyd, cardiau credyd

Anifeiliaid
Mae’n ddrwg gennym ond nid ydym yn caniatáu i hi ddod ag anifeiliaid anwes. We’re sorry but pets are not allowe dto stay.

Canslo ac Yswiriant
Wedi i chi drefnu eich arhosiad, mae ein cytundeb yn gontract cyfreithiol ac nid oes modd ad-dalu unrhyw flaendal a fydd wedi’i dalu gennych. Os oes angen i chi ganslo, cysylltwch â ni ar unwaith. Am y rheswm hwnnw, efallai y dymunwch godi yswiriant canslo, sy’n rhad ac ar gael oddi wrth unrhyw frocer da.

Arian blaendal yn ôl
Ni chedwir lle heb flaendal neu daliad llawn o flaen llaw.
Ni roddir unrhyw flaendal yn ôl. Byddwn yn codi’r graddfeydd canlynol os ydych yn canslo:
o fewn 14 diwrnod i gyrraedd: byddwn yn codi 25% o werth y bwcin (neu gost y noson gyntaf, beth bynnag yw’r uchaf);
o fewn 48 awr i gyrraedd: byddwn yn codi 50% o werth y bwcin (neu gost y noson gyntaf, beth bynnag yw’r uchaf));
o fewn 24 awr i gyrraedd: byddwn yn codi 100% o werth y bwcin.
(Bydd y symiau uchod yn cael eu codi ar adeg y canslo).
Os oes gennych yswiriant teithio efallai y bydd modd i chi hawlio’r costau hyn yn ôl ganddynt. Os yw eich rheswm dros ganslo’n dod o fewn eich polisi yswiriant fe allwn fod o gymorth gydag unrhyw waith papur fydd angen arnoch.

Llety ddim ar gael
Yr unig reswm a fyddai gennym am ganslo eich archeb fyddai pe na bai eich ystafell ar gael am resymau tu hwnt i’n rheolaeth.

Cyrraedd
Bydd eich ystafell ar gael i chi o 3:00 o’r gloch ar y diwrnod y cyrhaeddwch, oni bai bod trefniant gwahanol wedi ei wneud o flaen llaw.

Gadael
Rhaid i chi fod yn barod i adael eich ystafell erbyn 11:00 y bore ar y diwrnod ymadael oni bai y trefnir yn wahanol. Bydd eich bil am yr ystafell ac unrhyw ychwanegiadau neu wasanaethau a gafwyd yn ystod eich arhosiad yn daladwy ar eich ymadawiad.

Difrod
Rhaid i chi drin ein llety gyda gofal. Chi sy’n gyfrifol ac atebol am unrhyw ddifrod a achosir gennych i’ch ystafell a’i chynnwys, Rhowch wybod i ni amdanynt cyn gynted ag y digwyddant. Fel arfer nid ydym yn codi tâl am fan bethau a dorrir neu am fan ddifrod, ond mae’n bosibl y caech anfoneb atgyweirio neu drwsio oddi wrthym os yw’r difrod yn sylweddol, a gallem godi tâl ychwanegol o £50 pe na baech wedi’n hysbysu o hyn.

Atebolrwydd
Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddifrod, colled neu anaf i unrhyw aelod o’ch parti neu unrhyw gerbyd neu eiddo, oni bai y gellir profi iddynt gael eu hachosi gan weithred esgeulus ar ein rhan ni, ein staff neu gontractwyr tra’n gweithredu o fewn cyflogaeth.

Data
Gellir bod rhywfaint o fanylion eich arhosiad yn cael ei gadw gennym ar gyfrifiadur ond ni chaiff ei rannu â neb arall.

Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Fryn Eisteddfod.

Comments are closed.

  • Ymholiadau

    Os oes gennych unrhyw gwestiynau am Fryn Eisetddfod, cysylltwch unrhyw adeg o'r dydd neu gyda'r nos.
  • Trwyddedig

    Mae Bryn Eisteddfod yn eiddo trwyddedig ac felly rydym yn gallu cynnig popeth o beint hwyr i frecwast siampên.
  • Sut i Gyrraedd

    Os oes gennych chi iPhone fe allwn anfon pin atoch. Fel arall cliciwch yma i gael cyfarwyddiadau gan Google Maps.