Cymdeithasau a phartïon
Rydym yn croesawu ymholiadau gan griwiau a hoffai alw draw am bryd o fwyd. Gallwn gynnig bwffe oer neu boeth, neu fe allwn weini pryd o fwyd ar blât i bawb – holwch a fe wnawn ein gorau i gynnig yr hyn sydd yn eich siwtio chi.
Cinio dydd Sul
Bob dydd Sul, o hanner dydd tan 2:00 y p’nawn, rydym yn cynnig cinio dydd Sul tri chwrs. Cig eidion, cig oen, twrci a phorc a dewis da o lysiau a grefi bendigedig. Te a choffi am ddim ar gael i ddilyn.
Oedolyn 3 chwrs: £18.50
Oedolyn 2 gwrs: £16.00
Plentyn oed ysgol uwchradd: £11.00
Plentyn oed ysgol gynradd: £6.50
Plentyn bach/babi: £3.50
Enghraifft o Fwydlen Cinio Sul
Dylid cadw bwrdd. Ffoniwch rŵan: 01286 660 017 neu ebostiwch i gadw lle.
Read More